Llwyddo'n Lleol
Mae Llwyddo’n Lleol yn brosiect arloesol sydd yn helpu pobl ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru i ddatblygu a llwyddo yn eu cymunedau. Mae’n brosiect ar y cyd gyda Chyngor Ynys Môn, Conwy a Dinbych, gyda Chyngor Gwynedd yn arwain. Mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 i 19 oed sydd yn byw yng Ngwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Prif nod y rhaglen hon yw annog pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder i fod yn fentrus o fewn cyflogaeth a hunangyflogaeth, ond yn allweddol, i wneud hyn o fewn eu cymunedau lleol. Bydd y prosiect yn:
- Cynyddu hyder pobl ifanc yn eu cymunedau a’r dyfodol gall eu cymunedau ei gynnig
- Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r sectorau twf yn eu hardal, a’r cyfleoedd cyflogaeth a hunangyflogaeth sy’n deillio o’r sectorau
- Meithrin agwedd gallu-gwneud ymysg pobl ifanc, gan annog pobl ifanc i ystyried hunangyflogaeth fel dewis gyrfa posib
- Datblygu sgiliau menter ymysg pobl ifanc
Mae cyfres o weithgareddau ar gael i bobl ifanc:
Sesiynau Sbarduno Syniadau a Gweinyddu Bwrsariaeth Llwyddo’n Lleol
Mae’r Sesiynau Sbarduno Syniadau yn rhoi cyfle i bobl ifanc sefydlu busnes eu hunain. Mae cyngor a chefnogaeth yn cael ei ddarparu i help pobl ifanc i adnabod syniad busnes, a datblygu cynllun busnes ar gyfer ymgeisio am fwrsariaeth Llwyddo’n Lleol. Mae Bwrsariaeth o hyd at £1,000 ar gael i helpu pobl ifanc dalu am gostau cychwynnol o sefydlu busnes. Bydd y gweithgaredd yma yn cael ei achredu i gymhwyster Lefel 1.
Modiwlau Entrepreneuriaeth
Mae’r Modiwlau Entrepreneuriaeth yn gyfres o unedau sydd wedi ei achredu i gymhwyster Lefel 2. Mae’r modiwlau yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu dealltwriaeth o fentergarwch, ac i ddatblygu sgiliau menter.
Digwyddiadau Hyrwyddo Sectorau Penodol
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau hyrwyddo sectorau twf penodol yng Ngwynedd er mwyn hyrwyddo’r sectorau twf lleol. Prif nod y digwyddiadau yw codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r cyfleoedd cyflogaeth a hunangyflogaeth o fewn y sectorau twf isod:
- Ynni
- Economi Werdd
- Diwydiannau Creadigol
- Awyr Agored
- Mentrau Cymdeithasol
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bethan Eluned Jones, Cydlynydd Llwyddo’n Lleol ar llwyddonlleol@gwynedd.gov.uk neu 01286 679674.
Mae’r prosiect wedi cael ei wneud yn bosibl gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
